Portffolio
Mae gennym brofiad mewn sawl maes, yn amrywio o brosiectau preswyl i brosiectau diwydiannol a masnachol. Yn rhyfedd iawn, mae amryw o’r prosiectau preswyl yn ymwneud â hen feudai sydd wedi cael eu troi’n gartrefi, rhywbeth sydd wedi digwydd yn naturiol yn y cwr yma o’r byd wrth i’r diwydiant ffermio arallgyfeirio. Fodd bynnag, mae’r mileniwm newydd wedi dod ag amrywiaeth o waith, ac yn gyfle i’r cwmni ehangu i dir newydd, cyffrous. Mae gennym ddiddordeb mewn bob math o waith, ac wedi bod yn canolbwyntio’n ddiweddar ar greu o’r newydd. Porwh drwy’r portffolio i weld enghreifftiau.
Bryn Gadlas
Beudai a drawsnewidwyd yn dŷ yn 1997 ydy Bryn Gadlas.
Aethwpyd ati i adeiladu garej yn ddiweddarach yn ogystal ag ystafell haul i’r lolfa.
Rhoddwyd wyneb cerrig i’r ychwanegiadau, gan lwyddo i gadw cymeriad yr hen adeiladau.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau o Bryn Gadlas
Crowrach Uchaf, Bwlchtocyn
Ymgymerwyd â sawl prosiect yng Nghrowrach Uchaf dros y blynyddoedd. Un o’r prosiectau cyntaf oedd addasu’r adeiladau allanol yn uned breswyl annibynnol o’r prif dŷ. Aethpwyd ati’n fwy diweddar i ychwanegu ystafell haul i’r lolfa, yn ogystal ag addasu’r gegin yn y tŷ.
Ysgubor Plas, Llwyndyrys
Mae Ysgubor Plas yn dyddio nôl i ddechrau’r ganrif ddiwethaf.
Ar ddechrau’r mileniwn newydd adeiladwyd estyniad helaeth, gan greu cartref sylweddol ei faint.
Yn ddiweddarach, ychwanegwyd ystafell haul ar ochr orllewinol y tŷ.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau o Ysgubor Plas, Llwyndyrys
Bwthyn Tŷ Uchaf, Rhosfawr
Hen dŷ ffarm a drawsnewidwyd yn gartref moethus yn 1997. Addaswyd yr adeiladau gwreiddiol, gan greu tŷ gyda chegin sylweddol i fodloni gofynnion teulu.
Tan y Graig, Boduan
Mae Tan y Graig yn adeilad sy’n dyddio’n ôl i ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Codi estyniad oedd y briff yma, a hynny i sicrhau cegin sylweddol i’r tŷ. Defnyddiwyd wyneb cerrig ar yr estyniad er mwyn gweddu â gweddill yr adeilad. Yn ogystal â chodi’r estyniad, bûm yn gyfrifol am wneud y gegin dderw.
Tŷ Gwyn, Pistyll
Ymgymerwyd â’r gwaith o addasu Tŷ Gwyn yn 2007. Addaswyd rhywfaint ar gynllun y prif dŷ er mwyn cael cegin sylweddol ar ochr ogleddol yr adeilad.
Yr Efail, Llangybi
Addaswyd yr hen efail i fod yn rhan o’r tŷ gwreiddiol.
Trawsffurfiwyd yr adeilad i gynnwys cegin sylweddol, ystafell wely, ystafell ymolchi a chreu daflod trawiadol uwch ben.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau o Yr Efail, Llangybi
Ysgubor Fawr, Llwyndyrys
Mae fferm ar safle Ysgubor Fawr ers 80au’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Addaswyd y tŷ rhywbryd yng nghanol y ganrif ddiwethaf, ac erbyn heddiw, mae’r ’sgubor wedi’i thrawsnewid i fod yn rhan o’r tŷ. Pigwyd y gwaith cerrig ar y tŷ gwreiddiol, cyn mynd ati i addasu’i du mewn a’r ’sgubor i gynnwys cegin newydd ac ystafelloedd gwely. Gwnaethpwyd ffenestri derw i’r holl agoriadau gan lwyddo i gadw cymeriad yr adeilad. Codwyd estyniad deulawr o ffram goed, a rhoi wyneb cerrig arno i gyd-fynd â gweddill y tŷ.
Graig Las, Nefyn
Anedd newydd a ddatblygwyd ar ddarn o dir yn Nefyn. Adeilad ffram-goed ydyw, wedi’i orffen â wyneb o gerrig ithfaen o’r hen chwareli lleol. Gosodwyd system air conditioning ynghŷd â system gwres o dan y llawr. Buom hefyd yn gyfrifol am y gwaith tirlunio.
Gwern, Nefyn
Mae Gwern wedi’i leoli dafliad carreg o Graig Las, ac mae’n enghraifft arall o dŷ ffram goed. Fe’i codwyd mewn cyfnod o 16 wythnos, a hynny yn cynnwys dymchwel yr adeilad oedd ar y plot o’i flaen ynghŷd â’r gwaith tirlunio. Defnyddiwyd y dulliau diweddaraf wrth ei insiwleiddio, ac fe gafodd system ynni solar ei gosod er mwyn cynnhesu’r dŵr.
Gwasg Carreg Gwalch, Llwyndyrys
Hen feudai oedd swyddfeydd Gwasg Carreg Gwalch ar un cyfnod.
Ond yn dilyn gwaith yn 1999, mae’r adeiladau bellach yn gartref i swyddfeydd braf ac yn stordy i un o brif weisg Cymru.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau o Gwasg Carreg Gwalch
Tafarn y Fic, Llithfaen
Tafarn gymunedol ym mhentref Llithfaen yw Tafarn y Fic.
Mae’r adeilad gwreiddiol yn dyddio nôl i’r ganrif ddiwethaf, ond yn 2004 adnewyddwyd y dafarn, ac adeiladwyd estyniad sylweddol yng nghefn yr adeilad gwreiddiol.
Fe geir yn yr estyniad ystafell amlbwrpas, sydd ar hyn o bryd yn gartref i fwyty. Estyniad deulawr ydyw, gyda chegin bwrpasol a thoiledau ar y llawr gwaelod.
Ymgymerwyd hefyd â’r gwaith o greu maes parcio yng nghefn yr adeilad, gan gyfuno cerrig Ithfaen lleol a deunyddiau mwy diwydiannol.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau o Tafarn y Fic
Tonnau
Hen siop baent ym Mhwllheli a drawsnewidwyd yn Oriel a fflatiau yn 2006.
Mae’r adeilad yn dyddio ’nôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac wedi’i leoli yn un o strydoedd prysuraf y dref—Stryd Penlan.
Mae’r oriel ei hun ar y llawr gwaelod yn cynnwys ystafell i gael paned a chacen tra’n gwerthfawrogi’r gweithiau celf gan artistiaid lleol a chenedlaethol.
Un o’r newidiadau a wnaed i’r adeilad oedd symud y drws o wyneb yr adeilad yw gongl, gan greu mynedfa a wyneb trawiadol i’r Oriel yn ogystal â chreu ffenestr arddangos effeithiol i fframio’r cynnyrch a gaiff ei arddangos.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau o Tonnau
GRH Foods
Ready Foods Ltd
Lleoliad
Gweld E W Griffiffiths mewn map mwy