Croeso i E.W.Griffiths Cyf.
Croeso i safwe E. W. Griffiths Cyf, ymgymerwyr adeiladwaith ar Benrhyn Llŷn. Cewch yma wybodaeth am y cwmni ynghŷd â chyfle i bori drwy bortffolio sy’n cynnwys enghreifftiau o waith a phrosiectau yr ydym wedi ymgymryd â hwy dros y blynyddoedd. Mae gennym dros ugain mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu, ac rydym yn anelu i gyrraedd y safon uchaf posib drwy’r adeg. Cwmni cymharol fychan ydym, ac o’r herwydd gallwn gynnig gwasanaeth personol i’n cwsmeriaid.