Amdanom Ni
Sefydlwyd E. W. Griffiths Cyf. fel cwmni cyfyngedig yn 2003, a bodolai’r cwmni cyn hynny ers 1991. Mae gennym felly dros ugain mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu.
Mae’n gwaith yn amrywio’n helaeth, gyda phrosiectau newydd, gwahanol a chyffrous ar y gweill. Rydym yn ymgymryd â gwaith adeiladu o bob math, ac yn ceisio’n gorau i ragori yn yr hyn a wnawn. Mae gennym brofiad helaeth mewn adnewyddu tai, yn ogystal â phrofiad mewn prosiectau o natur ddiwydiannol a masnachol. Gallwch weld enghreifftiau o’r prosiectau diweddaraf yn ein porffolio ar-lein.
Gan ein bod yn gwmni cymharol fychan, mae’r gallu gennym i ganolbwyntio a rhoi sylw arbennig i brosiect penodol — o ddechrau’r gwaith i’w ddiwedd. Ymfalchïwn yn ein ethos glòs, ac mae’n ddyhead gennym i sefydlu perthynas dda rhyngom ni a’r cleient o’r cychwyn cyntaf. Yn wir, rydym wedi cyd-weithio â llawer o’n cwsmeriaid ar amryw o brosiectau eraill yn dilyn y cyntaf, ac yn falch o’r berthynas glòs yr ydym wedi’i sefydlu.
Os oes gennych syniad neu brosiect yr hoffech ei drafod, cysylltwch am gyngor neu sgwrs.
Lleoliad
Gweld E W Griffiffiths mewn map mwy